Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Trafodaeth ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau

Tystiolaeth gan Comisiynydd Pobl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – CIS 7

 

 

 

 

 

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

4ydd Mehefin 2015

 

Annwyl Bwyllgor,

Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau

 

Diolch am y cyfle i ymateb i'ch ymgynghoriad ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau[1]. Rwy’n llwyr gefnogi’r holl ymdrechion i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn seilwaith sgiliau Cymru, a bod mwy o gyflogwyr yn buddsoddi yn sgiliau eu gweithlu. Drwy dynnu’r pwyslais oddi ar ddull buddsoddi mewn sgiliau a arweinir gan y llywodraeth a chanolbwyntio ar system a ddylanwadir ac a arweinir gan gyflogwyr, mae'n hanfodol bod gweithwyr o bob oed yn cael eu cefnogi i wella'u sgiliau. Gyda disgwyliad oes yn cynyddu a’r angen i gynyddu incymau yn effeithio ar fodelau ymddeol traddodiadol, mae’n rhaid i bobl hŷn allu cael mynediad at gyfleoedd newydd i ddysgu sgiliau er mwyn aros yn y byd gwaith neu fynd yn ôl i weithio.

 

Wedi dweud hynny, ac fel y pwysleisiais yn fy ymateb i’ch Ymchwiliad i Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 oed[2], ac yn fy ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - ‘Cysoni’r model prentisiaethau ag anghenion Economi Cymru’, mae pobl hŷn, yn enwedig y rheiny rhwng 50 oed  ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn wynebu sawl rhwystr sy’n eu hatal rhag aros yn y farchnad waith neu rhag mynd yn ôl i weithio.

 

Mae rhagfarn ar sail oedran yn rhwystr allweddol i weithwyr hŷn:

-      Mae strategaethau polisi, cynlluniau gweithredu a'r holl drafodaethau ynghylch cyflogaeth a chynlluniau sgiliau yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl dan 25 oed.Er enghraifft, nid yw Datganiad Polisi ar Sgiliau[3] Llywodraeth Cymru na’r Cynllun Gweithredu Sgiliau[4] yn cyfeirio at sgiliau penodol sydd eu hangen ar weithwyr hŷn i aros yn y byd gwaith neu fynd yn ôl i weithio. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau digidol i adlewyrchu amgylchiadau gwaith modern, ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu hategu gan arferion gweithio hyblyg sy’n ystyried cyfrifoldebau gweithwyr hŷn sy’n gofalu am rieni eu hunain a/neu wyrion a wyresau.

-      Nid yw cyflogwyr yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr hŷn a defnyddio’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad cyfoethog sydd ganddynt. Er enghraifft, tra bo’r fframwaith yn nodi bod Llywodraeth Cymru (P5) yn cefnogi prentisiaethau hyd at lefel 3 i bobl dan 25 oed, mae'n rhaid i'r cyflogwyr (P6) ysgwyddo costau'r hyfforddiant i'r rheiny sydd dros 25 oed.

-      Dylai gweithwyr hŷn gael mynediad at yr un gefnogaeth â phawb arall.O ran cydraddoldeb a thegwch, er bod y fframwaith yn cyfeirio at gefnogi ystod eang o unigolion i gael mynediad at hyfforddiant yn y gweithle (P7), nid yw'n cyfeirio at archwilio effaith y fframwaith ar wahanol grwpiau oedran, nac ychwaith bod y fframwaith yn addas ar gyfer bob oedran.

Mae’r sefyllfa sy’n wynebu pobl hŷn yn y diwydiant gofal yn enghraifft o gyfle anghyfartal i gael mynediad at gefnogaeth. Mae’r gostyngiad yn yr arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru yn golygu mai dim ond pobl dan 25 oed sy'n cael cymorth i gael Cymhwyster Lefel 2 o dan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) , sef prif gymhwyster gofalwyr[5].Gan fod y cymhwyster yn costio rhwng £750 a £1,200, mae pobl hŷn sydd am gael gwaith yn y diwydiant gofal yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny heb y gefnogaeth angenrheidiol[6].Mae dibynnu ar gyflogwyr ac unigolion dros 25 oed i ariannu hyfforddiant eu hunain y potensial o roi gweithwyr hŷn ar anfantais[7]. Mae’r effeithiau’n bellgyrhaeddol i unigolion ac i’r diwydiant; mae unigolion yn colli cyfleoedd i wella’u gyrfaoedd, eu incwm a’u sgiliau, ac mae’r diwydiant ar ei golled heb eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad cyfoethog.

Mae’r angen i foderneiddio arferion ac amgylchiadau gweithio a chynnig cynlluniau cyflogaeth a strategaethau sgiliau i bobl o bob oed yng Nghymru nawr yn fwy nag erioed:mae dros draean y bobl rhwng 50 ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth yng Nghymru yn ddi-waith (tua 214,000 o bobl), ac amcangyfrifir bod pedair gwaith yn fwy o bobl hŷn nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) na phobl dan 25 oed[8][9].Yn y DU, bydd 13.5 miliwn o swyddi gwag yn y degawd nesaf a dim ond 7 miliwn o bobl ifanc fydd wedi gadael addysg yn ystod y cyfnod hwnnw[10].Felly, mae’n rhaid i fentrau fel y fframwaith sgiliau fanteisio ar botensial gweithwyr hŷn ac ailgysylltu â'r 'gweithlu anghofiedig'.

Fel y nodais yn fy ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i’r model prentisiaethau, rwy’n disgwyl y bydd y fframwaith ar gyfer buddsoddiad ar y cyd yn annog cyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau pobl o bob oed o’r cychwyn. Mae gwneud yn siŵr bod gweithwyr hŷn yn elwa o'r gwaith ar y cyd a arweinir gan y llywodraeth a dulliau a arweinir gan gyflogwyr o fudd i'r unigolyn, i'r gweithlu ac i'r economi leol/genedlaethol.

O ystyried bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn ac nad oes digon o ddefnydd yn cael ei wneud o wybodaeth a phrofiad cyfoethog ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn cydnabod manteision cyflogi gweithlu amrywiol sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn buddsoddi mewn sgiliau i gadw eu gweithwyr hŷn neu'n ail gysylltu â nhw.  

Yn gywir,

digi sig for Sarah R

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru



[1] http://gov.wales/docs/dcells/publications/141120-framework-for-co-investment-in-skills-en.pdf

[2] http://www.senedd.assembly.wales/documents/s35635/EBC4-03-15%20p.1%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[3] http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/140129-policy-statement-on-skills-en.pdf   

[4] http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/140714-skills-implementation-plan-en.pdf   

[5] http://www.niacecymru.org.uk/en/content/niace-cymru-urges-welsh-government-maintain-all-age-investment-skills

[6] http://www.quantumskillsacademy.com/courses

[7] http://www.ccwales.org.uk/uploads/Council_Members/29.01.15/N._Item_14_Co-investmenmt_Framework.pdf

[8] http://www.prime.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/PRIME-report-the-missing-million.pdf

[9] http://wales.gov.uk/docs/statistics/2013/130724-young-people-not-education-employment-training-year-31-march-2013-en.xls    

[10] http://www.prime.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/PRIME-report-the-missing-million.pdf